Y Salmau 116:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf,a gefynnau Sheol wedi fy nal,a minnau'n dioddef adfyd ac ing.

4. Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”

5. Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,ac y mae ein Duw ni'n tosturio.

6. Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.

7. Gorffwysa unwaith eto, fy enaid,oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;

8. oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau,fy llygaid rhag dagrau,fy nhraed rhag baglu.

9. Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw.

10. Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng;cefais fy nghystuddio'n drwm;

Y Salmau 116