Y Salmau 116:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. am iddo droi ei glust atafy dydd y gwaeddais arno.

3. Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf,a gefynnau Sheol wedi fy nal,a minnau'n dioddef adfyd ac ing.

4. Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”

5. Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,ac y mae ein Duw ni'n tosturio.

6. Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.

7. Gorffwysa unwaith eto, fy enaid,oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;

8. oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau,fy llygaid rhag dagrau,fy nhraed rhag baglu.

9. Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw.

10. Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng;cefais fy nghystuddio'n drwm;

11. yn fy nghyni dywedais,“Y mae pawb yn dwyllodrus.”

12. Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDDam ei holl haelioni tuag ataf?

Y Salmau 116