Y Salmau 115:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Arian ac aur yw eu delwau hwy,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

5. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;

6. y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,a ffroenau nad ydynt yn arogli;

7. y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo,a thraed nad ydynt yn cerdded;ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.

8. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.

9. O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.

10. O dŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.

Y Salmau 115