Y Salmau 114:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft,tŷ Jacob o blith pobl estron eu hiaith,

2. daeth Jwda yn gysegr iddo,ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.

3. Edrychodd y môr a chilio,a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.

4. Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,a'r bryniau fel ŵyn.

5. Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl?

Y Salmau 114