Y Salmau 111:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau;graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.

5. Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni,ac yn cofio ei gyfamod am byth.

6. Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoeddtrwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7. Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn,a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;

8. y maent wedi eu sefydlu hyd byth,ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.

9. Rhoes waredigaeth i'w bobl,a gorchymyn ei gyfamod dros byth.Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.

Y Salmau 111