Y Salmau 109:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. bydded ei blant yn amddifada'i wraig yn weddw.

10. Crwydred ei blant i gardota—wedi eu troi allan o'u hadfeilion.

11. Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,a dyged estroniaid ei enillion.

12. Na fydded i neb drugarhau wrtho,na gwneud ffafr â'i blant amddifad.

13. Torrer ymaith ei linach,a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.

14. Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD,ac na ddileer pechodau ei fam.

15. Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad,a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.

Y Salmau 109