Y Salmau 109:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Hyn fyddo tâl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr,sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.

21. Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,gweithreda drosof er mwyn dy enw;oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.

22. Yr wyf yn druan a thlawd,a'm calon mewn gwewyr ynof.

23. Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;fe'm gyrrir ymaith fel locust.

24. Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25. Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

Y Salmau 109