Y Salmau 107:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd hwy o'u hadfyd;

7. arweiniodd hwy ar hyd ffordd unioni fynd i ddinas i fyw ynddi.

8. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

9. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,a llenwi'r newynog â phethau daionus.

10. Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,yn gaethion mewn gofid a haearn,

11. am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw,a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12. Llethwyd eu calon gan flinder;syrthiasant heb neb i'w hachub.

13. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

Y Salmau 107