Y Salmau 107:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,ac yr oedd eu nerth yn pallu.

6. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd hwy o'u hadfyd;

7. arweiniodd hwy ar hyd ffordd unioni fynd i ddinas i fyw ynddi.

8. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

9. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,a llenwi'r newynog â phethau daionus.

10. Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,yn gaethion mewn gofid a haearn,

Y Salmau 107