Y Salmau 107:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;

5. yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,ac yr oedd eu nerth yn pallu.

6. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd hwy o'u hadfyd;

7. arweiniodd hwy ar hyd ffordd unioni fynd i ddinas i fyw ynddi.

8. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

9. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,a llenwi'r newynog â phethau daionus.

10. Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,yn gaethion mewn gofid a haearn,

Y Salmau 107