Y Salmau 107:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.

33. Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34. y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.

35. Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,a thir sych yn ffynhonnau.

36. Gwna i'r newynog fyw yno,a sefydlant ddinas i fyw ynddi;

Y Salmau 107