Y Salmau 107:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25. Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,a pheri i'r tonnau godi'n uchel.

26. Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,a phallodd eu dewrder yn y trybini;

27. yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,ac wedi colli eu holl fedr.

28. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

29. gwnaeth i'r storm dawelu,ac aeth y tonnau'n ddistaw;

Y Salmau 107