Y Salmau 107:22-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.

23. Aeth rhai i'r môr mewn llongau,a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;

24. gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25. Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,a pheri i'r tonnau godi'n uchel.

26. Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,a phallodd eu dewrder yn y trybini;

27. yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,ac wedi colli eu holl fedr.

28. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

29. gwnaeth i'r storm dawelu,ac aeth y tonnau'n ddistaw;

30. yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.

31. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

32. Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.

33. Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34. y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.

35. Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,a thir sych yn ffynhonnau.

36. Gwna i'r newynog fyw yno,a sefydlant ddinas i fyw ynddi;

37. heuant feysydd a phlannu gwinwydd,a chânt gnydau toreithiog.

38. Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau,ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.

Y Salmau 107