Y Salmau 107:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD,y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,

3. a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd,o'r dwyrain a'r gorllewin,o'r gogledd a'r de.

4. Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;

5. yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,ac yr oedd eu nerth yn pallu.

6. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd hwy o'u hadfyd;

7. arweiniodd hwy ar hyd ffordd unioni fynd i ddinas i fyw ynddi.

8. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

9. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,a llenwi'r newynog â phethau daionus.

10. Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,yn gaethion mewn gofid a haearn,

11. am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw,a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12. Llethwyd eu calon gan flinder;syrthiasant heb neb i'w hachub.

Y Salmau 107