Y Salmau 107:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. aethant i gasáu pob math o fwyd,a daethant yn agos at byrth angau.

19. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

20. anfonodd ei air ac iachaodd hwy,a gwaredodd hwy o ddistryw.

21. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

22. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.

23. Aeth rhai i'r môr mewn llongau,a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;

24. gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25. Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,a pheri i'r tonnau godi'n uchel.

26. Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,a phallodd eu dewrder yn y trybini;

27. yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,ac wedi colli eu holl fedr.

Y Salmau 107