Y Salmau 107:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurusa'u camwedd fe'u cystuddiwyd;

18. aethant i gasáu pob math o fwyd,a daethant yn agos at byrth angau.

19. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

20. anfonodd ei air ac iachaodd hwy,a gwaredodd hwy o ddistryw.

21. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

22. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.

23. Aeth rhai i'r môr mewn llongau,a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;

24. gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

Y Salmau 107