Y Salmau 107:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurusa'u camwedd fe'u cystuddiwyd;

18. aethant i gasáu pob math o fwyd,a daethant yn agos at byrth angau.

19. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

20. anfonodd ei air ac iachaodd hwy,a gwaredodd hwy o ddistryw.

21. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

Y Salmau 107