Y Salmau 107:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.

2. Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD,y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,

3. a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd,o'r dwyrain a'r gorllewin,o'r gogledd a'r de.

4. Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;

5. yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,ac yr oedd eu nerth yn pallu.

Y Salmau 107