Y Salmau 106:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn,ac yn gwneud cyfiawnder bob amser.

4. Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr â'th bobl;ymwêl â mi, pan fyddi'n gwaredu,

5. imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi,a llawenhau yn llawenydd dy genedl,a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di.

6. Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu;yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni.

7. Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifftni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,na chofio maint dy ffyddlondeb,ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch.

8. Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,er mwyn dangos ei rym.

9. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.

Y Salmau 106