Y Salmau 106:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Cododd yntau ei law a thynguy byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,

27. ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.

28. Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,a bwyta ebyrth y meirw;

29. yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD â'u gweithredoedd,a thorrodd pla allan yn eu mysg.

30. Ond cododd Phinees a'u barnu,ac ataliwyd y pla.

31. A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddodros y cenedlaethau am byth.

Y Salmau 106