Y Salmau 106:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.

24. Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,ac nid oeddent yn credu ei air;

25. yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.

26. Cododd yntau ei law a thynguy byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,

27. ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.

28. Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,a bwyta ebyrth y meirw;

Y Salmau 106