Y Salmau 104:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini,fel na fydd yn symud byth bythoedd;

6. gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn,ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd.

7. Gan dy gerydd di fe ffoesant,gan sŵn dy daranau ciliasant draw,

8. a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,i'r lle a bennaist ti iddynt;

9. rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.

Y Salmau 104