Y Salmau 104:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. lle mae'r adar yn nythu,a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.

18. Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.

19. Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,ac i'r haul wybod pryd i fachlud.

20. Trefnaist dywyllwch, fel bod nos,a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,

21. gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth,ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.

22. Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.

23. A daw pobl allan i weithio,ac at eu llafur hyd yr hwyrnos.

24. Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD!Gwnaethost y cyfan mewn doethineb;y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.

25. Dyma'r môr mawr a llydan,gydag ymlusgiaid dirifedia chreaduriaid bach a mawr.

26. Arno y mae'r llongau yn tramwyo,a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.

27. Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat tii roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.

28. Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd;pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr.

29. Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir;pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant,a dychwelyd i'r llwch.

Y Salmau 104