Y Salmau 104:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. lle mae'r adar yn nythu,a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.

18. Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.

19. Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,ac i'r haul wybod pryd i fachlud.

20. Trefnaist dywyllwch, fel bod nos,a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,

21. gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth,ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.

22. Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.

Y Salmau 104