Y Salmau 103:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawndera barn i'r holl rai gorthrymedig.

7. Dysgodd ei ffyrdd i Moses,a'i weithredoedd i blant Israel.

8. Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.

9. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,nac yn meithrin ei ddicter am byth.

10. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.

11. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear,y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;

Y Salmau 103