Y Salmau 103:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:

3. ef sy'n maddau fy holl gamweddau,yn iacháu fy holl afiechyd;

4. ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll,ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd;

5. ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiaui adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.

6. Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawndera barn i'r holl rai gorthrymedig.

7. Dysgodd ei ffyrdd i Moses,a'i weithredoedd i blant Israel.

8. Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.

9. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,nac yn meithrin ei ddicter am byth.

10. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.

Y Salmau 103