Y Salmau 10:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.

8. Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;gwylia ei lygaid am yr anffodus.

9. Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;llecha er mwyn llarpio'r truan,ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;

10. caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.

11. Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”

Y Salmau 10