Y Salmau 10:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;nac anghofia'r anghenus.

13. Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?

14. Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid,ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law;arnat ti y dibynna'r anffodus,ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.

15. Dryllia nerth y drygionus a'r anfad;chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.

16. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd;difethir y cenhedloedd o'i dir.

17. Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus;yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,

18. yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig,rhag i feidrolion beri ofn mwyach.

Y Salmau 10