Y Salmau 10:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;nac anghofia'r anghenus.

13. Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?

14. Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid,ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law;arnat ti y dibynna'r anffodus,ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.

Y Salmau 10