Y Salmau 10:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pam, ARGLWYDD, y sefi draw,ac ymguddio yn amser cyfyngder?

2. Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus;dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.

3. Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.

4. Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.

5. Troellog yw ei ffyrdd bob amser,y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.

6. Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”

7. Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.

8. Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;gwylia ei lygaid am yr anffodus.

9. Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;llecha er mwyn llarpio'r truan,ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;

Y Salmau 10