Y Salmau 10:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pam, ARGLWYDD, y sefi draw,ac ymguddio yn amser cyfyngder?

2. Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus;dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.

3. Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.

Y Salmau 10