Y Pregethwr 9:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Dyma sy'n ddrwg yn y cyfan a ddigwydd dan yr haul: mai'r un peth yw tynged pawb. Y mae calon pobl yn llawn drygioni, a ffolineb yn eu calonnau ar hyd eu bywyd, ac yna y maent yn marw.

4. Y mae gobaith i'r un a gyfrifir ymysg y byw; oherwydd y mae ci byw yn well na llew marw.

5. Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt.

6. Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.

7. Dos, bwyta dy fwyd mewn llawenydd, ac yf dy win â chalon lawen, oherwydd y mae Duw eisoes yn fodlon ar dy weithredoedd.

8. Gofala fod gennyt ddillad gwyn bob amser, a chofia roi olew ar dy ben.

9. Mwynha fywyd gyda'r wraig yr wyt yn ei charu, a hynny yn ystod holl ddyddiau dy fywyd gwag a roddodd ef iti dan yr haul, oherwydd dyma yw dy dynged mewn bywyd, ac yn y llafur a gyflawni dan yr haul.

10. Beth bynnag yr wyt yn ei wneud, gwna â'th holl egni; oherwydd yn Sheol, lle'r wyt yn mynd, nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb.

11. Unwaith eto, dyma a sylwais dan yr haul: nid y cyflym sy'n ennill y ras, ac nid y cryf sy'n ennill y rhyfel; nid y doethion sy'n cael bwyd, nid y deallus sy'n cael cyfoeth, ac nid y rhai gwybodus sy'n cael ffafr. Hap a damwain sy'n digwydd iddynt i gyd.

Y Pregethwr 9