Y Pregethwr 9:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ni ŵyr neb pa bryd y daw ei amser; fel y delir pysgod mewn rhwyd ac adar mewn magl, felly y delir pobl gan amser adfyd sy'n dod arnynt yn ddisymwth.

13. Dyma hefyd y ddoethineb a welais dan yr haul, ac yr oedd yn hynod yn fy ngolwg:

14. yr oedd dinas fechan, ac ychydig o bobl ynddi; ymosododd brenin nerthol arni a'i hamgylchynu ac adeiladu gwarchae cryf yn ei herbyn.

15. Yr oedd ynddi ddyn tlawd a doeth, ac fe waredodd ef y ddinas trwy ei ddoethineb; eto ni chofiodd neb am y dyn tlawd hwnnw.

16. Ond yr wyf yn dweud bod doethineb yn well na chryfder, er i ddoethineb y dyn tlawd gael ei dirmygu, a neb yn gwrando ar ei eiriau.

17. Y mae geiriau tawel y doethion yn well na bloedd llywodraethwr ymysg ffyliaid.

18. Y mae doethineb yn well nag arfau rhyfel, ond y mae un pechadur yn difetha llawer o ddaioni.

Y Pregethwr 9