Y Pregethwr 8:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd?

8. Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr.

9. Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt.

10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

11. Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.

Y Pregethwr 8