Y Pregethwr 7:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae'n well gwrando ar gerydd y doethna gwrando ar gân ffyliaid.

6. Oherwydd y mae chwerthin y ffŵlfel clindarddach drain o dan grochan.Y mae hyn hefyd yn wagedd.

7. Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.

8. Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,ac amynedd yn well nag ymffrost.

9. Paid â rhuthro i ddangos dig,oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.

Y Pregethwr 7