Y Pregethwr 3:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. amser i garu, ac amser i gasáu,amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?

10. Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.

11. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.

12. Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,

13. a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.

Y Pregethwr 3