1. Dywedais wrthyf fy hun, “Tyrd yn awr, gad imi brofi pleser, a'm mwynhau fy hun,”
2. ond yr oedd hyn hefyd yn wagedd. Dywedais fod chwerthin yn ynfydrwydd, ac nad oedd pleser yn dda i ddim.
3. Ceisiais godi fy nghalon â gwin, gan ofalu fy mod yn ymddwyn yn ddoeth ac yn ffrwyno ffolineb, nes imi weld beth oedd yn dda i bobl ei wneud dan y nef yn ystod cyfnod byr eu hoes.
4. Gwneuthum bethau mawr: adeiledais dai i mi fy hun, a phlannu gwinllannoedd;
5. gwneuthum erddi a pherllannau, a phlannu pob math ar goed ffrwythau ynddynt;
6. gwneuthum hefyd lynnoedd i ddyfrhau ohonynt y llwyni coed oedd yn tyfu;
7. prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhŷ; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem;