Y Pregethwr 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem:

2. “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr,“gwagedd llwyr yw'r cyfan.”

3. Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,wrth iddo ymlafnio dan yr haul?

4. Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond y mae'r ddaear yn aros am byth.

5. Y mae'r haul yn codi ac yn machlud,ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.

6. Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd;y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus,ac yn dod yn ôl i'w gwrs.

Y Pregethwr 1