Tobit 7:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “O'r gorau,” meddai Ragwel wrtho, “fe'i rhoddir hi iti yn unol ag ordinhad llyfr Moses, oherwydd o'r nef y daeth y dyfarniad ei bod i'w rhoi iti. Cymer dy berthynas. O hyn ymlaen rwyt ti'n frawd iddi hi a hithau'n chwaer i ti. Y mae hi wedi ei rhoi iti o'r dydd heddiw ac am byth. Bydded i Arglwydd y nef eich llwyddo chwi y nos hon, fy machgen, a chaniatáu i chwi drugaredd a thangnefedd.”

13. Yna galwodd Ragwel Sara ei ferch. Pan ddaeth ato, gafaelodd yn ei llaw a'i chyflwyno hi i Tobias, gan ddweud, “Cymer hi yn unol â'r gyfraith ac â'r ordinhad sydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr Moses, sef fy mod i'w rhoi yn wraig i ti. Cadw hi a dos â hi adref at dy dad yn ddiogel. Bydded i Dduw'r nef sicrhau llwyddiant a thangnefedd i chwi.”

14. Galwodd Ragwel ar ei mam hi a dweud wrthi am ddod â sgrôl, ac ysgrifennodd arni eu cyfamod priodasol, gan egluro hefyd iddo ei rhoi yn wraig i Tobias yn unol ag ordinhad cyfraith Moses.

15. Wedi hynny dechreusant fwyta ac yfed.

16. Yna galwodd Ragwel ar Edna ei wraig a dweud wrthi, “Fy chwaer, gwna'r ystafell arbennig yn barod, a chymer hi yno.”

17. Aeth hithau a chyweirio gwely yn yr ystafell, fel y dywedodd wrthi. Aeth â'r ferch yno, ond torrodd i wylo o'i hachos. Yna sychodd ei dagrau a dweud wrthi,

18. “Bydd ddewr, fy merch. Rhodded Arglwydd y nef iti lawenydd yn lle galar. Bydd ddewr, fy merch.” Yna aeth allan.

Tobit 7