Rwyf wedi ei rhoi hi'n wraig i saith gŵr o blith ein brodyr, ond bu farw pob un ohonynt yr union noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi. Ond bellach bwyta ac yf, fy machgen. Bydd yr Arglwydd yn drugarog wrthych.” Ond atebodd Tobias, “Nid wyf am fwyta nac yfed dim oll yma cyn iti ddyfarnu ynglŷn â'm cais.”