12. Y mae hi'n ferch gall a dewr ac eithriadol brydferth, a'i thad yn ddyn nobl.” Ychwanegodd, “Y mae'n iawn i ti ei chael hi'n wraig. Gwrando arnaf, felly, fy mrawd. Siaradaf â'i thad heno am y ferch, er mwyn inni ei chael hi'n ddyweddi iti. A phan ddychwelwn o Rhages cawn ddathlu ei phriodas. Y mae gennyf wybodaeth sicr na all Ragwel ei gwrthod i ti, na'i dyweddïo i neb arall, gan y byddai felly yn haeddu marwolaeth yn ôl dyfarniad llyfr Moses, oherwydd y mae'n gwybod mai braint i ti rhagor undyn arall yw etifeddu ei ferch yn wraig. Gwrando arnaf yn awr, fy mrawd. Cawn siarad am y ferch heno, a'i dyweddïo i ti, a phan ddychwelwn o Rhages fe'i cymerwn hi'n wraig iti a mynd â hi'n ôl gyda ni i'th gartref.”
13. Ond atebodd Tobias Raffael fel hyn: “Asarias, fy mrawd, clywais ei bod hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn barod, a'u bod wedi marw yn yr ystafell briodas, bob un. Y noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi byddent farw.
14. Clywais sôn mai cythraul oedd yn eu lladd. Y mae arnaf ofn rhag i minnau farw. Er nad yw'r cythraul yn gwneud dim niwed iddi hi, y mae'n lladd unrhyw un a gais ddod yn agos ati. A minnau'n unig blentyn fy nhad, y mae arnaf ofn dwyn bywyd fy nhad a'm mam i'r bedd o alar amdanaf, a hwythau heb fab arall i'w claddu.”
15. Ond dyma Raffael yn gofyn iddo, “Onid wyt ti'n cofio gorchmynion dy dad, pan ddywedodd wrthyt am briodi gwraig o blith teulu dy dad? Gwrando yn awr, felly, fy mrawd, a phaid â phryderu ynghylch y cythraul hwn. Prioda hi. Rwy'n gwybod y bydd hi heno yn cael ei rhoi'n wraig iti.
16. Ond pan ei di i mewn i'r ystafell briodas, cymer ddarn o afu'r pysgodyn a'i galon, a'u taenu ar farwor offrwm yr arogldarth.