Tobit 6:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cychwynnodd y bachgen ar ei daith, a'r angel gydag ef; aeth y ci hefyd yn gydymaith iddynt. Aethant yn eu blaen ill dau nes i'r nos eu dal, a threuliasant y noson gyntaf honno ar lan Afon Tigris.

2. Aeth y bachgen i lawr i olchi ei draed yn Afon Tigris, a dyma bysgodyn mawr yn neidio allan o'r dŵr gan geisio llyncu troed y bachgen.

3. Gwaeddodd y bachgen, ond meddai'r angel wrtho, “Gafael yn y pysgodyn a chydia'n dynn ynddo.” Cafodd y bachgen y trechaf ar y pysgodyn a'i dynnu i'r lan.

Tobit 6