1. Cychwynnodd y bachgen ar ei daith, a'r angel gydag ef; aeth y ci hefyd yn gydymaith iddynt. Aethant yn eu blaen ill dau nes i'r nos eu dal, a threuliasant y noson gyntaf honno ar lan Afon Tigris.
2. Aeth y bachgen i lawr i olchi ei draed yn Afon Tigris, a dyma bysgodyn mawr yn neidio allan o'r dŵr gan geisio llyncu troed y bachgen.
3. Gwaeddodd y bachgen, ond meddai'r angel wrtho, “Gafael yn y pysgodyn a chydia'n dynn ynddo.” Cafodd y bachgen y trechaf ar y pysgodyn a'i dynnu i'r lan.
4. “Hollta'r pysgodyn,” meddai'r angel wrtho, “a thyn allan ei fustl, ei galon a'i afu, a'u cadw gyda thi, ond tafla'r perfedd i ffwrdd; oherwydd y mae i'r bustl, y galon a'r afu eu defnydd fel meddyginiaeth.”
5. Holltodd y bachgen y pysgodyn, felly, a chasglu'r bustl, y galon a'r afu. Yna ffriodd ddarn o'r pysgodyn a'i fwyta, a chadw'r gweddill wedi ei halltu. Teithiodd y ddau ymlaen gyda'i gilydd nes iddynt ddod yn agos i Media.
6. Yna holodd y bachgen yr angel: “Asarias, fy mrawd,” meddai wrtho, “beth yw'r feddyginiaeth sydd gan galon y pysgodyn, a'i afu a'i fustl?”
7. Atebodd yntau, “Os llosgi di galon ac afu pysgodyn o flaen gŵr neu wraig a flinir gan gythraul neu ysbryd drwg, bydd y mwg yn peri i bob blinder gilio oddi wrthynt, ac ni chaiff y cythreuliaid feddiant arnynt byth mwy.
8. A'r bustl, os eneini lygaid unrhyw un ag ef pan fydd smotiau gwyn wedi ymdaenu drostynt, ac os chwythi ar y smotiau gwyn, daw'r llygaid yn holliach.”
9. Wedi iddo fynd i mewn i Media, ac yntau erbyn hyn ar fin cyrraedd Ecbatana,
10. dywedodd Raffael wrth y bachgen, “Tobias, fy mrawd.” “Dyma fi,” atebodd yntau. “Rhaid inni letya heno yn nhŷ Ragwel, sy'n berthynas iti,” meddai wrtho. “Y mae ganddo ferch o'r enw Sara. Nid oes ganddo blentyn, na mab na merch, ar wahân i Sara yn unig,