7. “Aros amdanaf, ŵr ifanc,” meddai wrtho, “rwyf am fynd i'r tŷ a rhoi gwybod i'm tad, oherwydd y mae arnaf dy angen i deithio gyda mi, ac mi ofalaf fi am dalu dy gyflog.”
8. “O'r gorau,” atebodd yntau, “disgwyliaf amdanat, ond paid â bod yn rhy hir.”Aeth Tobias i'r tŷ, felly, a rhoi gwybod i'w dad Tobit. “Gwrando,” meddai, “rwyf wedi taro ar gydymaith o blith ein pobl, plant Israel.” “Tyrd â'r dyn ataf,” atebodd yntau, “i mi gael gwybod beth yw ei hil a'i linach, a gweld a ellir ymddiried ynddo fel cydymaith i ti, fy machgen.”
9. Aeth Tobias allan a galw arno. “Y mae 'nhad am dy weld di, ŵr ifanc,” meddai wrtho. Pan ddaeth i'r tŷ ato, Tobit oedd gyntaf â'i gyfarchiad. Ymatebodd yntau fel hyn: “A phob dymuniad da i tithau!” Ond ateb Tobit oedd: “Pa dda y gellir ei ddymuno i mi, bellach, a minnau heb ddefnydd fy llygaid? Ni allaf weld golau dydd; yr wyf wedi fy ngosod mewn tywyllwch, fel y meirw nad ydynt mwyach yn gweld y golau. Er yn fyw, rwyf yng nghwmni'r meirw; rwy'n clywed lleisiau pobl, ond ni allaf eu gweld.” “Cod dy galon,” meddai Raffael wrtho, “y mae ym mwriad Duw dy iacháu gyda hyn; cod dy galon!” Yna esboniodd Tobit iddo fel hyn: “Y mae Tobias fy mab am deithio i Media. A elli di fynd gydag ef a'i arwain yno? Fe ofalaf fi y cei di dy gyflog, fy mrawd.” Atebodd yntau, “Gallaf, mi af gydag ef. Rwy'n gyfarwydd â'r ffyrdd i gyd, am i mi fod droeon yn Media a thramwyo'i holl diroedd gwastad yn ogystal â'i mynyddoedd. Rwy'n adnabod ei ffyrdd i gyd.”
10. Yna gofynnodd Tobit iddo, “Fy mrawd, i ba deulu ac i ba lwyth yr wyt ti'n perthyn? Dywed wrthyf, fy mrawd.” “Pa angen sydd i ti wybod am fy llwyth?” gofynnodd yntau.
11. “Yr wyf am wybod y gwir am dy achau, fy mrawd,” meddai Tobit. “Beth yw dy enw?”
12. Yna dywedodd wrtho, “Asarias wyf fi, mab Ananias yr hynaf, o blith dy frodyr.”
13. Ymatebodd yntau, “Bendith arnat! Duw a'th gadwo ar y daith, fy mrawd! Paid â dal dig yn fy erbyn, fy mrawd, am i mi fynnu gwybod y gwir am dy deulu. Fel y digwydd, rwyt ti'n un o'n brodyr ac yn barchus a theilwng dy linach. Yr oeddwn yn adnabod Ananias a Nathan, dau fab Semelias yr hynaf. Yr oeddent yn arfer mynd ar bererindod i Jerwsalem gyda mi, ac yn addoli gyda mi yno. Nid aethant ar gyfeiliorn. Yr oedd dy frodyr yn ddynion da. Yr wyt ti'n tarddu o dras enwog. Ac felly bendith ar dy siwrnai!”