Tobit 5:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Paid â phrysuro i hel arian at arian, ond er mwyn ein bachgen, cymer fod yr arian wedi ei golli.

19. Digon i ni yw'r math o fywyd sydd wedi ei roi inni gan yr Arglwydd.”

20. “Paid â hel meddyliau,” meddai wrthi, “yn holliach y mae ein bachgen yn dechrau ar ei daith, ac yn holliach y daw'n ôl atom. Caiff dy lygaid di ei weld yn fyw ac yn iach ar y dydd y daw'n ôl atat.

21. Paid â hel meddyliau, na phoeni amdanynt, fy chwaer, oherwydd bydd angel da yn gydymaith iddo, i hyrwyddo'i ffordd a dod ag ef yn ôl yn holliach.”

22. Yna distawodd hithau, a pheidio ag wylo.

Tobit 5