14. Ychwanegodd, “Rhof iti ddrachma y dydd yn gyflog, a'th dreuliau angenrheidiol, yr un fath ag i'm mab;
15. ac os cedwi di wrth ochr fy mab ar hyd y daith, yna fe ychwanegaf at dy gyflog.”
16. “Af gydag ef,” atebodd, “a phaid ag ofni. Yn iach yr ymadawn â thi, ac yn iach y dychwelwn atat, oherwydd y mae'r ffordd yn ddiogel.” “Bendith arnat, fy mrawd,” meddai Tobit wrtho. Yna galwodd ei fab a dweud wrtho, “Fy machgen, gwna dy baratoadau ar gyfer y daith, a dos gyda'th frawd. Boed i Dduw, sydd yn y nefoedd, eich cadw'n ddiogel ar y ffordd yno, a dod â chwi'n ôl ataf yn holliach. A boed i'w angel fod gyda chwi ar y ffordd, fy machgen, er diogelwch.” Wrth ymadael i gychwyn ar ei daith, cusanodd ei dad a'i fam, a chanodd Tobit yn iach iddo.
17. Ond dyma'i fam yn torri i wylo a chwyno wrth Tobit fel hyn: “Pam yr wyt ti wedi anfon fy machgen i ffwrdd? Onid ef yw'r ffon, megis, y pwyswn arni, ac yntau'n mynd a dod yn ein gwasanaeth?
18. Paid â phrysuro i hel arian at arian, ond er mwyn ein bachgen, cymer fod yr arian wedi ei golli.
19. Digon i ni yw'r math o fywyd sydd wedi ei roi inni gan yr Arglwydd.”
20. “Paid â hel meddyliau,” meddai wrthi, “yn holliach y mae ein bachgen yn dechrau ar ei daith, ac yn holliach y daw'n ôl atom. Caiff dy lygaid di ei weld yn fyw ac yn iach ar y dydd y daw'n ôl atat.
21. Paid â hel meddyliau, na phoeni amdanynt, fy chwaer, oherwydd bydd angel da yn gydymaith iddo, i hyrwyddo'i ffordd a dod ag ef yn ôl yn holliach.”
22. Yna distawodd hithau, a pheidio ag wylo.