1. Yna atebodd Tobias ei dad Tobit fel hyn: “Gwnaf bob peth yr wyt wedi ei orchymyn imi, fy nhad;
2. ond sut y bydd hi'n bosibl i mi gael yr arian ganddo, ac yntau heb f'adnabod i a minnau heb ei adnabod ef? Pa arwydd a roddaf iddo, er mwyn iddo f'adnabod ac ymddiried ynof a rhoi'r arian imi? Nid wyf yn gyfarwydd â'r ffyrdd i Media, chwaith, i fynd yno.”
3. Yna atebodd Tobit ei fab Tobias, “Rhoddodd ei lofnod ar bapur i mi, a rhoddais innau fy llofnod iddo yntau, a thorri'r papur yn ei hanner, inni gael hanner yr un. Gadewais fy narn i gyda'r arian. Aeth ugain mlynedd heibio bellach er pan adewais yr arian yma ynghadw ganddo. Ond yn awr, fy machgen, chwilia am rywun y gellir dibynnu arno, i fynd ar y daith gyda thi. Fe dalwn gyflog iddo hyd at amser dy ddychweliad. Ac felly dos i dderbyn yr arian hwn yn ôl gan Gabael.”
4. Aeth Tobias allan i chwilio am rywun i fynd gydag ef i Media, un a fyddai'n gyfarwydd â'r ffordd. Wedi mynd allan, fe'i cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Raffael, yr angel,
5. ond ni wyddai mai angel Duw oedd ef. Gofynnodd iddo, “O ble rwyt ti'n dod, ŵr ifanc?” “O blith meibion Israel, dy frodyr,” meddai wrtho, “ac rwyf wedi dod yma i gael gwaith.” A dyma'i holi ymhellach, “A wyt ti'n gyfarwydd â'r ffordd i fynd i Media?”
6. “Ydwyf,” oedd ei ateb, “bûm yno droeon. Rwy'n gyfarwydd o brofiad â phob cam o'r ffordd. Bûm ar deithiau mynych i Media, a lletya yn nhŷ Gabael, ein brawd, sy'n byw yn Rhages yn Media. Fe'i cyfrifir yn daith dau ddiwrnod cyfan o Ecbatana i Rhages, oherwydd y mae'n gorwedd yn y mynydd-dir.”
7. “Aros amdanaf, ŵr ifanc,” meddai wrtho, “rwyf am fynd i'r tŷ a rhoi gwybod i'm tad, oherwydd y mae arnaf dy angen i deithio gyda mi, ac mi ofalaf fi am dalu dy gyflog.”
8. “O'r gorau,” atebodd yntau, “disgwyliaf amdanat, ond paid â bod yn rhy hir.”Aeth Tobias i'r tŷ, felly, a rhoi gwybod i'w dad Tobit. “Gwrando,” meddai, “rwyf wedi taro ar gydymaith o blith ein pobl, plant Israel.” “Tyrd â'r dyn ataf,” atebodd yntau, “i mi gael gwybod beth yw ei hil a'i linach, a gweld a ellir ymddiried ynddo fel cydymaith i ti, fy machgen.”
9. Aeth Tobias allan a galw arno. “Y mae 'nhad am dy weld di, ŵr ifanc,” meddai wrtho. Pan ddaeth i'r tŷ ato, Tobit oedd gyntaf â'i gyfarchiad. Ymatebodd yntau fel hyn: “A phob dymuniad da i tithau!” Ond ateb Tobit oedd: “Pa dda y gellir ei ddymuno i mi, bellach, a minnau heb ddefnydd fy llygaid? Ni allaf weld golau dydd; yr wyf wedi fy ngosod mewn tywyllwch, fel y meirw nad ydynt mwyach yn gweld y golau. Er yn fyw, rwyf yng nghwmni'r meirw; rwy'n clywed lleisiau pobl, ond ni allaf eu gweld.” “Cod dy galon,” meddai Raffael wrtho, “y mae ym mwriad Duw dy iacháu gyda hyn; cod dy galon!” Yna esboniodd Tobit iddo fel hyn: “Y mae Tobias fy mab am deithio i Media. A elli di fynd gydag ef a'i arwain yno? Fe ofalaf fi y cei di dy gyflog, fy mrawd.” Atebodd yntau, “Gallaf, mi af gydag ef. Rwy'n gyfarwydd â'r ffyrdd i gyd, am i mi fod droeon yn Media a thramwyo'i holl diroedd gwastad yn ogystal â'i mynyddoedd. Rwy'n adnabod ei ffyrdd i gyd.”
10. Yna gofynnodd Tobit iddo, “Fy mrawd, i ba deulu ac i ba lwyth yr wyt ti'n perthyn? Dywed wrthyf, fy mrawd.” “Pa angen sydd i ti wybod am fy llwyth?” gofynnodd yntau.