Tobit 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyna'r diwrnod y cofiodd Tobit am yr arian yr oedd wedi ei adael yng ngofal Gabael yn Rhages yn Media,

2. a myfyriodd ynddo'i hun fel hyn: “Gan imi weddïo am gael marw, oni ddylwn alw Tobias fy mab ac esbonio wrtho am yr arian hwn cyn imi farw?”

3. Felly, galwodd ei fab Tobias a dweud wrtho pan ddaeth ato, “Rho angladd parchus i mi, ac anrhydedda dy fam; paid â'i gadael hi'n ddigymorth tra bydd hi byw. Gwna'r hyn a fydd wrth fodd ei chalon, a phaid â pheri gofid iddi ag unrhyw weithred.

Tobit 4