3. Cofia fi yn awr, Arglwydd, ac edrych arnaf. Paid â'm cosbi am y pechodau ac am y camweddau diarwybod yr wyf fi a'm hynafiaid yn euog ohonynt.
4. Yr wyf wedi pechu ger dy fron ac wedi anwybyddu dy orchmynion. Traddodaist ni, felly, i anrhaith a chaethiwed a marwolaeth, ac i fod yn ddihareb ac yn destun siarad a chyff gwawd i'r holl genhedloedd y gwasgeraist ni i'w plith.
5. Yn wir, cywir yw dy aml farnedigaethau wrth fynnu rhoi cosb arnaf am fy mhechodau, oherwydd nid ydym wedi cadw dy orchmynion na rhodio'n gywir yn dy olwg di.
6. Yn awr, felly, gwna â mi yn ôl dy ddymuniad. Gorchymyn gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, imi gael fy ngollwng yn rhydd oddi ar wyneb y ddaear a'm troi yn bridd; oherwydd marw sydd fuddiol i mi, nid byw, am i mi glywed geiriau o sen celwyddog, er mawr ofid imi. Arglwydd, rho orchymyn i mi gael rhyddhad o'r cyfyngder hwn; gad imi ddianc i'r orffwysfa dragwyddol, a phaid â throi dy wyneb oddi wrthyf, Arglwydd. Oherwydd gwell i mi farw na chael bywyd o flinder mawr a gwrando ar y fath sen.”