13. gorchymyn fy ngollwng o'r ddaear, imi beidio â dioddef y fath sen byth eto.
14. Gwyddost, Arglwydd, fy mod yn lân o unrhyw aflendid gyda gŵr;
15. nid wyf wedi halogi fy enw i nac enw fy nhad yn nhir fy nghaethiwed. Myfi yw unig ferch fy nhad; nid oes ganddo blentyn arall i fod yn etifedd iddo, na brawd wrth law, na pherthynas i mi fy nghadw fy hun i fod yn wraig iddo. Eisoes yr wyf wedi colli saith gŵr; pa bwrpas, felly, sydd i mi ddal i fyw? Ond, os nad yw'n rhyngu bodd i ti ganiatáu i mi farw, Arglwydd, tro dy sylw trugarog at y sen a fwriwyd arnaf.”
16. Ar yr union adeg honno, fe glywyd gweddi'r ddau gan Dduw yn ei ogoniant,
17. ac anfonwyd Raffael i adfer y ddau: adfer Tobit, trwy symud y smotiau gwyn oddi ar ei lygaid, iddo gael gweld goleuni Duw â'i lygaid; ac adfer Sara, merch Ragwel, trwy ei rhoi hi'n wraig i Tobias fab Tobit, a'i rhyddhau o afael Asmodeus, yr ysbryd drwg, oherwydd Tobias oedd biau'r hawl arni o flaen pawb arall a oedd am ei phriodi. Aeth Tobit yn ôl i'w dŷ o'r cyntedd, ac ar yr un pryd yn union daeth Sara, merch Ragwel, hithau i lawr o'r oruwchystafell.